Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
27 Tachwedd 2024
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/14184
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 4 gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.21
Gofynnwyd cwestiynau 1 a 3-9. Tynnwyd cwestiwn 2 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 3 gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol. Atebwyd cwestiynau 7 a 8 gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 3.
Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.06
Gwnaeth Mabon ap Gwynfor ddatganiad am - Wythnos Ymwybyddiaeth y Byd o Ymwrthedd Gwrthficrobaidd.
Dechreuodd yr eitem am 15.08
Dechreuodd yr eitem am 15.23
NDM8746 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar Fanc Datblygu Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Gorffennaf 2024, ac y gosodwyd ymateb iddo gan Lywodraeth Cymru ar 20 Tachwedd 2024. Ymatebodd Banc Datblygu Cymru ar 4 Medi 2024 (Saesneg yn unig), a rhoddwyd ymateb wedi’i ddiweddaru ar 29 Hydref 2024 (Saesneg yn unig).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.00
NDM8745 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, ‘Craffu ar Gyfrifon: Amgueddfa Cymru 2021-22’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Mehefin 2024.
Sylwer: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Tachwedd 2024. Ymatebodd Amgueddfa Cymru ar 4 Hydref 2024.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.38
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8747 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Lafur y DU i wyrdroi ei phenderfyniad i osod treth fferm deuluol ar fusnesau amaethyddol.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
24 |
0 |
26 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod cyfraniad pwysig ffermwyr at ein heconomi, ein prosesau cynhyrchu bwyd, ein hamgylchedd a’n cymunedau.
2. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth y DU i newid y rhyddhad eiddo amaethyddol.
3. Yn cydnabod bod newidiadau Llywodraeth y DU i eyddhad eiddo amaethyddol wedi’u gwneud o fewn cyd-destun y niwed a achoswyd gan Lywodraeth flaenorol y DU i wasanaethau cyhoeddus a’r diffyg o £22 biliwn mewn arian cyhoeddus.
4. Yn croesawu cymorth amrywiol Llywodraeth Cymru i ffermwyr, gan gynnwys sicrhau estyniad i ryddhad eiddo amaethyddol o fis Ebrill 2025 i gynnwys y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
26 |
0 |
24 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraethau Cymru a’r DU i gynnal asesiad manwl o effaith y newidiadau trethianol ar fusnesau amaethyddol, er mwyn deall yr effaith y mae’n debygol o’i gael ar gynaliadwyedd a hyfywedd ffermydd teuluol yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
24 |
0 |
26 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod cyfraniad pwysig ffermwyr at ein heconomi, ein prosesau cynhyrchu bwyd, ein hamgylchedd a’n cymunedau.
2. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth y DU i newid y rhyddhad eiddo amaethyddol.
3. Yn cydnabod bod newidiadau Llywodraeth y DU i eyddhad eiddo amaethyddol wedi’u gwneud o fewn cyd-destun y niwed a achoswyd gan Lywodraeth flaenorol y DU i wasanaethau cyhoeddus a’r diffyg o £22 biliwn mewn arian cyhoeddus.
4. Yn croesawu cymorth amrywiol Llywodraeth Cymru i ffermwyr, gan gynnwys sicrhau estyniad i ryddhad eiddo amaethyddol o fis Ebrill 2025 i gynnwys y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
26 |
0 |
24 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 17.06
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8748 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi y bydd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn cael ei gynnal ar 7 Rhagfyr 2024.
2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae busnesau bach yn ei wneud o ran creu swyddi, cefnogi cymunedau a datblygu economïau lleol ledled Cymru.
3. Yn credu bod Llywodraeth Lafur y DU wedi torri ymrwymiad maniffesto drwy godi cyfraniadau yswiriant gwladol ac yn nodi bod Consortiwm Manwerthu Prydain a 79 o arweinwyr manwerthu amlwg wedi dweud y bydd y cynnydd yn arwain at brisiau uwch, swyddi'n cael eu colli, a niwed i lefelau buddsoddi.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:
a) i wneud sylwadau brys i Lywodraeth y DU o blaid gwyrdroi'r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol; a
b) dychwelyd rhyddhad ardrethi busnes i 75 y cant ar gyfer y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden i gefnogi busnesau bach a diogelu swyddi.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
24 |
0 |
26 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yng nghyllideb yr Hydref er mwyn ceisio sefydlogi sefyllfa ariannol y wlad.
Yn cydnabod bod rhyddhad ychwanegol ar gyfer ardrethi annomestig wedi bod ar gael i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch ers pum mlynedd yn olynol, am gost o £1 biliwn, ynghyd â phecyn blynyddol Llywodraeth Cymru o ryddhad ardrethi parhaol gwerth £250 miliwn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
26 |
0 |
24 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi y bydd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn cael ei gynnal ar 7 Rhagfyr 2024.
2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae busnesau bach yn ei wneud o ran creu swyddi, cefnogi cymunedau a datblygu economïau lleol ledled Cymru.
3. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yng nghyllideb yr Hydref er mwyn ceisio sefydlogi sefyllfa ariannol y wlad.
4. Yn cydnabod bod rhyddhad ychwanegol ar gyfer ardrethi annomestig wedi bod ar gael i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch ers pum mlynedd yn olynol, am gost o £1 biliwn, ynghyd â phecyn blynyddol Llywodraeth Cymru o ryddhad ardrethi parhaol gwerth £250 miliwn.
|
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
26 |
0 |
24 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 17.41
Dechreuodd yr eitem am 17.45
NDM8733 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)
Llygredd diwydiannol: Effaith etifeddiaeth ddiwydiannol Cymru ar ein tirweddau
Daeth y cyfarfod i ben am 18.17
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 3 Rhagfyr 2024